Taith Y Distyllfa Jin

Teithiau Jin yn Distyllfa Castell Hensol

Distyllfa jin yn seleri castell o’r 17eg ganrif? Dyma profiad gwych i rhai sy’n caru jin! Ymynwch gyda ni ar gyfer taith bendigedig o amgylych y ddistyllfa sy’n cymerid tua awr a hanner. Byddwch yn cael taith dywysedig llawn stori o’r ddistyllfa gan glywed am hanes Castell Hensol, gwreiddiau gin, rhyfeddodau botaneg a’n proses ddistyllu. A bydd yn bendant digon o amser ar ôl ar gyfer y dasg hollol bwysig o flasu’r jin!

Archebwch
Taith Jin

Dim ond £25 y pen

Argaeledd: Dyddiau penodol

Oherwydd cyfyngiadau COVID, rydym yn agor y ddistyllfa gyda rhifau a dyddiau is. Fodd bynnag, byddwn yn agor fel arall wrth i’r cyfyngiadau caniatau.

Tocynnau

Talebau Rhodd

Archebwch taith jin

Mae eich taith jin yn cynnwys:

01
Taith Arweinyddol Hanes Castell Hensol A Jin
Ar ol cyrraedd y derbynfa, cewch eich tywys gan un o’n arweinyddwyr ar daith cerdded unigryw o’r ddistyllfa jin, gan ddysgu am hanes Castell Hensol ac am y pobl hanesyddol a fu’n byw yn y castell, a sydd wedi ysbrydoli enwau rai o'r jins. Byddwch hefyd yn dysgu am hanes jin a pham ei fod yn 'tipple' poblogaidd ac un o ffefrynau’r cenedl.
02
Edrychwch o Amgylch ein Hystafell Synhwyraidd Fotaneg
Nesaf, cewch ymweld â'n hystafell fotaneg arbennig sy'n cynnwys dros 100 o wahanol fotanegau o bob cwr o'r byd. Yn yr ystafell yma gallwch gyffwrdd, arogli a deall ble maent i gyd yn dod o, a sut maent yn gwella'r gwiriodydd. Yna cewch eich cyflwyno i'n tanc copr 500 litr “Big Ben”, a bydd y broses ddistyllu'n cael ei egluro i chi.
03
Tiwtorial Blasu Jin
Nawr am y foment 'rydych i gyd wedi bod yn aros amdano, sef blasu ein jins. Byddwch yn dychwelyd i'n bar blasu lle cewch hyfforddiant bellach ar sut i flasu'r jin.
04
J&T yn y Bar Jin
Ar ȏl i chi ddewis eich eich hoff flas, mae’n amser i fynd i’r Bar Jin i fwynhau J&T o’ch dewis.
05
Cyfle i Bori Drwy’r Siop
Ar ddiwedd eich taith byddwch yn cael cyfle i bori trwy ein siop. Gallwch brynu potel flasus o gwiriodydd sydd wedi ei distyllu yn Nistyllfa Castell Hensol yn ogystal â chasgliad cyffrous o anrhegion jin eraill.