Profiadau Creu Jin

Profiad Creu Jin yn Nistyllfa Castell Hensol

Mae hyn ar gyfer yr rhai ohonoch sy’n hoffi jin! Gallwch ddistyllu, potelu a labelu jin eich hun yn union fel ‘rydych chi’n ei hoffi. Byddwch yn treulio tua 2 awr a hanner yn cyfuno ychydig o hanes jin gyda gwneud poteled 70cl i rysáit eich hunain. Felly os ydych yn dod ar ben eich hun neu gyda ffrindiau gallwch fod yn sicr eich bod gyda chwmni da o garwyr jin!

Archebwch eich profiad creu jin

Dim ond £110 y pen

Dim ond £150 am ddau person (Y ddau person yn rhannu yr un offer distyllu a chael un botel 70cl o jin)

Argaeledd – dyddiau penodol

Tocynnau

Talebau Rhodd

Gin Making Experience

Mae eich profiad creu jin yn cynnwys:

01
Taith Arweinyddol Hanes Castell Hensol A Jin
Ar ol cyrraedd y derbynfa, cewch eich tywys gan un o’n arweinyddwyr ar daith cerdded unigryw o’r ddistyllfa jin, gan ddysgu am hanes Castell Hensol ac am y pobl hanesyddol a fu’n byw yn y castell, a sydd wedi ysbrydoli enwau rai o'r jins. Byddwch hefyd yn dysgu am hanes jin a pham ei fod yn 'tipple' poblogaidd ac un o ffefrynau’r cenedl.
02
Tiwtorial Blasu Jin
Nawr am y foment 'rydych i gyd wedi bod yn aros amdano, sef blasu ein jins. Byddwch yn dychwelyd i'n bar blasu lle cewch hyfforddiant bellach ar sut i flasu'r jin.
03
Distyllu Potel o Jin eich Hun
Yna byddwch chi'n symud i'ch ystafell ddosbarth, lle gewch dysgu ble mae jin yn dod o a sut mae'n cael ei wneud. Byddwch yn gyfrifol am eich pot copr distyllu eich hun. Mae'r prif ddistyllwr yn gwybod popeth sydd i'w wybod am sut i wneud jin. O dan ei hyfforddiant arbenigol, bydd yn eich tywys bob cam o'r ffordd i wneud jin byddwch yn falch o alw'n un chi. Byddwch yn hapus yw arddangos i'ch ffrindiau ... ond efallai ddim rhannu gyda nhw!
04
J&T yn y Bar Jin
Ar ȏl i chi ddewis eich eich hoff flas, mae’n amser i fynd i’r Bar Jin i fwynhau J&T o’ch dewis.
05
Cyfle i Bori Drwy’r Siop
Ar ddiwedd eich taith byddwch yn cael cyfle i bori trwy ein siop. Gallwch brynu potel flasus o gwiriodydd sydd wedi ei distyllu yn Nistyllfa Castell Hensol yn ogystal â chasgliad cyffrous o anrhegion jin eraill.

Darganfod Mwy

Taith Jin

Gweithgareddau Grŵp