Ein Ddistyllfa
Prif Ddistyllfa De Cymru
Distyllfa Castell Hensol yw distyllfa jin, canolfan ymwelwyr, ysgol jin a safle boteli gyntaf De Cymru. Wedi ei leoli yn seleri Castell Hensol, lleoliad Gradd 1, sydd llawn dreftadaeth a hanes, ac yn ysbrydoliaeth i’r gwiriodydd ȃ datblygwyd yno.
Busnes teuluol gyda gwerthoedd traddiodiadol teuluol yw Distyllfa Castell Hensol. Busnes lle mae ein chydweithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn cymryd blaenoriaeth.
Mae Distyllfa Castell Hensol yn eiddo i’r teulu Leeke, sydd wedi adeiladu portffolio busnes sy’n cynnwys Grŵp Manwerthu Leekes, Vale Resort a Chastell Hensol, lleoliad Gradd 1 o’r 17eg ganrif sydd yn cynnwys seleri wag. Mae’r seleri nawr wedi’i drawsnewid mewn i ddistyllfa, gweithdy boteli, canolfan ymwelwyr ac ysgol jin. Rydym yn hynod o falch o’r gwirodydd rydym yn cynhyrchu, yn cynnwys Trulo, ein hystod calori-isel boblogaidd ac ein jin sydd wedi ennill clod a gwobrau yn barod.
Yn 1987, dechreuodd taid-crand y cyfarwyddwr busnes gwerthwyr hearn. Rydyn ni’n hoffi meddwl taw’r egwyddorion o gweithio’n galed, gonestrwydd, parch ac uniondeb wnaith gyrru James Henry Leeke yw’r gwerthoedd sy’n gyrru ni hyd at heddiw.


Rydym yn ffodus iawn i fod yng Nghastell Hensol, sy’n llawn o hanes a threftadaeth. Yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1400au, mae Castell Hensol wedi gadael ei ôl mewn llyfrau hanes o’i ddyddiau cynnar hyd at heddiw.
Rydym wrth ein bodd yn gwneud yr hyn a wnawn, ac mae cynnal a rhannu ein gwerthoedd teuluol yn bwysig i ni. Rydym am i’n tîm, cydweithwyr, cyflenwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid gael hwyl a mwynhau eu hun.Credwn mewn creu profiadau cofiadwy, ac mae ein gwirodydd blasus yn adlewyrchu ein gwerthoedd trwy gael eu creu gyda hwyl ag angerdd, yn ogystal â pharch at yr amgylchedd ac yfed cyfrifol.
